P-05-911 Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Janis Fry, ar ôl casglu cyfanswm o 77 lofnodion ar bapur.
Geiriad y ddeiseb:
Dyma ofyn i chi lofnodi fy neiseb yn galw am i goed Yw hynafol gael eu diogelu yn ôl y gyfraith.
Ar hyn o bryd nid yw'r coed prydferth hyn yn cael eu diogelu'n gyfreithiol. Mae'n hollbwysig i ni ddiogelu'r rhan hanfodol hon o'n treftadaeth â mesurau diogelu cyfreithiol penodol cyn i ni golli rhagor o goed. Mae'r coed Yw hyn wedi tyfu ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd. Maen nhw'n henebion byw ac yn dystion hynafol i hanes ein cyndeidiau a'n gwareiddiad. Rhaid i ni eu diogelu ar fyrder cyn i ragor gael eu colli.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
· Canolbarth a Gorllewin Cymru